RGC North Wales Rugby CYMRAEG

Thank You For Your Support

Dear RGC Supporters,

I wanted to write to you personally to say thank you, on behalf of everyone at RGC, for the support, kindness and understanding you have shown to our squad, to Jack, to Jack’s family and to Clwb Rygbi Caernarfon over the last few days.

This is something many of our young players have never experienced before, and knowing how to respond, what to say or even how to feel has been incredibly difficult. There is no right or wrong way to process something like this, and everyone will deal with it in their own way.

What I do know is that we are a team who look after one another. We will stand together, support each other and, in time, find our own way to move forward while remembering and honouring Jack.

Among Jack’s many qualities were his resilience and inner strength. Despite facing numerous injuries that had kept him out of the game for more than 18 months, he never gave up. He was determined to play rugby and, more importantly, he was determined to represent RGC. That says everything about the person he was.

As difficult as it is, we must now draw on that same resilience and strength, supporting one another and carrying Jack’s memory with us as we move forward.

Many people have asked what they can do to help, and my answer is simple: come and support the players, support the team, support our staff and help us honour Jack’s memory.

We will take to the field against Pontypool on 31st October, and this game will be played as a tribute to Jack. For once, it is not about the result. It is about coming together as the RGC Family, standing shoulder to shoulder and remembering one of our own.

We will share further details about the game in the coming days. In the meantime, thank you for continuing to show the compassion, unity and support that make RGC so much more than a rugby team.

I look forward to seeing you all at Stadiwm Eirias as we come together to remember Jack.

Diolch,

Alun

Annwyl Cefnogwyr RGC,

Roeddwn i eisiau ysgrifennu atoch chi'n bersonol i ddweud diolch, ar ran pawb yn RGC, am y gefnogaeth, y caredigrwydd a'r ddealltwriaeth rydych chi wedi'u dangos i'n carfan, i Jack, i deulu Jack ac i Glwb Rygbi Caernarfon dros yr ychydig ddyddiau diwethaf.

Mae hyn yn rhywbeth nad yw llawer o'n chwaraewyr ifanc erioed wedi'i brofi o'r blaen, ac mae gwybod sut i ymateb, beth i'w ddweud neu hyd yn oed sut i deimlo wedi bod yn anhygoel o anodd. Nid oes ffordd gywir nac anghywir o brosesu rhywbeth fel hyn, a bydd pawb yn delio a’r sefyllfa yn eu ffordd eu hunain.

Yr hyn rwy'n ei wybod yw ein bod ni'n dîm sy'n gofalu am ein gilydd. Byddwn ni'n sefyll gyda'n gilydd, yn cefnogi ein gilydd ac, ymhen amser, yn dod o hyd i'n ffordd ein hunain i symud ymlaen wrth gofio ac anrhydeddu Jack.

Ymhlith rhinweddau niferus Jack roedd ei wydnwch a'i gryfder mewnol. Er iddo wynebu nifer o anafiadau a oedd wedi'i gadw allan o'r gêm am fwy na 18 mis, ni roddodd y gorau iddi erioed. Roedd yn benderfynol o chwarae rygbi ac, yn bwysicach fyth, roedd yn benderfynol o gynrychioli RGC. Mae hynny'n dweud popeth am y person.

Er mor anodd ag ydyw, rhaid i ni nawr dynnu ar yr un gwydnwch a chryfder hwnnw, gan gefnogi ein gilydd a chario atgof Jack gyda ni wrth i ni symud ymlaen.

Mae llawer o bobl wedi gofyn beth allant ei wneud i helpu, ac mae fy ateb yn syml: dewch i gefnogi'r chwaraewyr, cefnogwch y tîm, cefnogwch ein staff a helpwch ni i anrhydeddu atgof Jack.

Byddwn ni’n mynd i’r cae yn erbyn Pont-y-pŵl ar 31 Hydref, a bydd y gêm hon yn cael ei chwarae fel teyrnged i Jack. Am unwaith, nid y canlyniad yw’r peth pwysig. Mae’n ymwneud â dod at ein gilydd fel Teulu RGC, sefyll ysgwydd wrth ysgwydd a chofio un o’n rhai ni ein hunain.

Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion am y gêm yn y dyddiau nesaf. Yn y cyfamser, diolch i chi am barhau i ddangos cydymdeimlad, yr undod a'r gefnogaeth sy'n gwneud RGC yn gymaint mwy na thîm rygbi.

Edrychaf ymlaen at eich gweld chi gyd yn Stadiwm Eirias wrth i ni ddod at ein gilydd i gofio Jack.

Diolch,

Alun